P-06-1329 Gosod uchelgais ac amserlen glir i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yn y wlad
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Luke Johns, ar ôl casglu cyfanswm o 1,505 lofnodion.
Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys nod statudol yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill y bydd pob person ifanc yng Nghymru yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan adeiladu ar hyn dros amser i sicrhau bod mwy a mwy o bobl ifanc yn y dyfodol yn dod yn rhugl ac yn hyderus yn yr iaith.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rydym yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, a bod gan bawb, waeth beth fo’u cefndir, yr hawl i’r iaith.
Mae’r dystiolaeth yn dangos mai’r ffordd i sicrhau bod pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith yw addysg cyfrwng Cymraeg, ond dim ond tua 20% o bobl ifanc sy’n cael y cyfle hwn ar hyn o bryd.
Rydym yn credu y dylai fod twf sylweddol a chyson mewn addysg cyfrwng Cymraeg, gan adeiladu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bawb i sicrhau mynediad i’r iaith i bob person ifanc.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Torfaen
· Dwyrain De Cymru